Join the UK Government for Procurement Act 2023: 23 January 2025
Annwyl gydweithiwr
Ymunwch â Llywodraeth y DU ar gyfer Deddf Caffael 2023: Gweminar ar gyfer cyflenwyr a sefydliadau allanol eraill
Bydd Deddf Caffael 2023 yn dod i rym ar 24 Chwefror 2025. Er mwyn cefnogi parodrwydd ar gyfer y weithdrefn newydd, mae Llywodraeth y DU yn cynnal dwy weminar ar gyfer cyflenwyr a sefydliadau allanol eraill. Bydd y sesiynau hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar y newidiadau allweddol, sut y bydd y llwyfan digidol canolog yn gweithio (gan gynnwys arddangosiad byw), a bydd yn gyfle i ofyn cwestiynau.
Cofrestrwch isod:
Dyddiad: Dydd Iau, 23 Ionawr 2025 Amser: 10:30am – 11:30am Lleoliad: Ar-lein
Dyddiad: Dydd Gwener 24 Ionawr 2025 Amser: 11:00am – 12:00am Lleoliad: Ar-lein
Diweddariad ar y Llwyfan Digidol Canolog Am dros chwe wythnos, mae awdurdodau contractio a chyflenwyr wedi cymryd rhan mewn profion Beta Preifat Swyddfa’r Cabinet o’r gwasanaeth Canfod Tendr uwchraddedig.
Mae’r adborth cynnar wedi bod yn galonogol, gyda’r system yn perfformio yn ôl y disgwyl. Yn bwysig, mae’r cyfranogwyr hefyd wedi darparu mewnwelediadau gwerthfawr i feysydd lle gellid mireinio a gwella profiad y defnyddiwr ymhellach.
Dylai cyflenwyr sydd â diddordeb mewn cyfrannu at y profion Beta gysylltu â tppdigital@cabinetoffice.gov.uk
Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2024 Mae drafft diwygiedig o’r rheoliadau bellach wedi’i osod gerbron y Senedd.
Yn amodol ar gytundeb y Senedd, bydd y rheoliadau drafft, Rheoliadau Gwasanaethau Iechyd (Y Gyfundrefn Dethol Darparwyr) (Cymru) 2025, yn dod i rym ar 24 Chwefror 2025.
Ceir rhagor o fanylion yn y datganiad ysgrifenedig.
Bydd fersiynau diwygiedig o’r canllawiau statudol a’r deunyddiau hyfforddi ar gael yn fuan. | Dear colleague
Join the UK Government for Procurement Act 2023: Webinar for suppliers & other external organisations
The Procurement Act 2023 will go live on 24 February 2025. To support readiness for the new regime, the UK Government are running two webinars for suppliers and other external organisations. These sessions will focus primarily on what the key changes are, how the central digital platform will work (featuring a live demonstration), and will be an opportunity to ask questions.
Register below:
Date: Thursday, 23 January 2025 Time: 10:30am – 11:30am Location: Online
Date: Friday, 24 January 2025 Time: 11:00am – 12:00am Location: Online
Central Digital Platform update For over six weeks, contracting authorities and suppliers have participated in the Cabinet Office’s Private Beta testing of the enhanced Find a Tender service.
Early feedback has been encouraging, with the system performing as expected. Importantly, participants have also provided valuable insights into areas where the user experience could be further refined and improved.
Suppliers interested in contributing to the Beta are should contact tppdigital@cabinetoffice.gov.uk.
Health Services (Provider Selection Regime) (Wales) Regulations 2024 An updated draft of the regulations has now been laid before the Senedd.
Subject to the Senedd’s agreement, the draft Health Services (Provider Selection Regime) (Wales) Regulations 2025 will come into force on 24 February 2025.
Further details are included in the written statement.
Updated versions of the statutory guidance and training materials will be available shortly.
|